Comisiynydd yn ymweld â chanolfan dioddefwyr Gwent

16eg Awst 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi ymweld am y tro cyntaf ag uned gofal i ddioddefwyr Heddlu Gwent, a chanolfan cymorth i ddioddefwyr, Connect Gwent.

Gwnaeth hi gwrdd â staff yr uned gofal i ddioddefwyr, sy'n brif bwynt cyswllt i ddioddefwyr, gan ddilyn y broses o riportio trosedd yr holl ffordd i ddiwedd y broses cyfiawnder troseddol. Mae swyddogion gofal i ddioddefwyr arbenigol yn gweithio gyda swyddogion yr heddlu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am eu hymchwiliad. Maent hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner i helpu pobl i gael gwell cymorth pan fo angen.

Ymwelodd y Comisiynydd Mudd â Connect Gwent hefyd, sef canolfan gymorth amlasiantaeth i ddioddefwyr sy’n dod â sefydliadau fel Age Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr, Newpathways, Umbrella Cymru a'r gwasanaeth iechyd at ei gilydd i gynnig cymorth, cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth hirdymor i ddioddefwyr troseddau.

Dywedodd y Comisiynydd Mudd: "Mae dioddef trosedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ac mae'n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i ddioddefwyr y gorau y gall fod. Roeddwn i’n edmygu’n fawr yr hyn a welais. Mae'r staff yn yr uned gofal i ddioddefwyr, sy'n gweithio i gefnogi dioddefwyr, a'r rhai o asiantaethau partner yr ydyn ni’n eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau arbenigol, yn gweithio'n galed ac yn ymroddedig i gefnogi ein trigolion.

"Rwyf eisiau deall canfyddiad y cyhoedd o'r gwasanaethau hyn yn well, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud pethau'n gywir. I roi eich barn ar hyn, yn ogystal â materion plismona eraill yng Ngwent, cymerwch amser i lenwi fy arolwg, dweud eich dweud, a'n helpu ni i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."

I ddweud eich dweud ewch i https://bit.ly/GwentPCP2024