Comisiynydd yn lansio Cynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Gwent

16eg Rhagfyr 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Gwent.

Mae'r cynllun yn nodi ei weledigaeth a'i flaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Mae pum blaenoriaeth plismona newydd, a ddewiswyd i ddiwallu anghenion cymunedau a sicrhau bod Heddlu Gwent yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol.

Blaenoriaethau'r heddlu a throsedd ar gyfer Gwent tan 2025 yw:

  • Cadw Cymdogaethau'n Ddiogel
  • Brwydro yn erbyn Troseddau Difrifol
  • Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr ac Amddiffyn Pobl Agored i Niwed
  • Cynyddu Hyder y Gymuned mewn Plismona
  • Ysgogi Plismona Cynaliadwy

Dywedodd Mr Cuthbert: “Bydd fy nghynllun newydd yn adeiladu ar y sylfeini cryf sydd wedi'u sefydlu eisoes ac yn atgyfnerthu'r llwyddiannau a gyflawnwyd ochr yn ochr â Heddlu Gwent a phartneriaid. Disgwylir i effaith COVID-19 ar gymdeithas barhau dros genedlaethau ac roedd plismona dan gryn bwysau cyn y pandemig. Byddaf yn parhau i sicrhau bod Heddlu Gwent yn gallu ymateb i heriau heddiw ac yfory.

“Mae fy nghynllun yn dangos yr ystod eang o faterion a heriau y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw os ydym am lwyddo i wneud Gwent yn lle mwy diogel. Mae'r Prif Gwnstabl a minnau wedi ymrwymo i ddiogelwch a lles cymunedau a thrigolion Gwent.

“Mae darparu gwasanaeth plismona cynaliadwy ac effeithiol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif yn gofyn am fuddsoddi a chynllunio. Rwy'n falch iawn bod bron i 200 o swyddi swyddogion heddlu ychwanegol wedi'u creu ers i mi ddechrau yn swydd y Comisiynydd yn 2016. Mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i ddiogelu a rhoi sicrwydd i'n trigolion yn ddyddiol.”

Mae mynd i'r afael â throseddu, cefnogi dioddefwyr a chynyddu hyder y gymuned mewn plismona i gyd yn ganolog i fy nghynllun. Hefyd, bydd yn rhaid i Heddlu Gwent fwrw ymlaen ag arferion plismona cynaliadwy er mwyn sicrhau gwasanaeth heddlu mwy effeithlon, ecogyfeillgar ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Datblygwyd y Cynllun Heddlu a Throsedd newydd yn dilyn ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd, wrth i 3,000 o bobl leisio barn ynghylch blaenoriaethau plismona yng Ngwent.

Dywedodd Mr Cuthbert: "Drwy gydol yr haf, buom yn siarad â miloedd o drigolion Gwent am eu profiadau o blismona yng Ngwent a'r hyn yr hoffen nhw weld yr heddlu'n canolbwyntio ei sylw arno. Drwy gasglu'r safbwyntiau hyn, cefais ddealltwriaeth fanylach o'r hyn sy'n bwysig i bobl Gwent a'n partneriaid ym maes plismona. Mae hyn yn fy ngwneud yn ffyddiog iawn y bydd fy nghynllun yn mynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl Gwent.

"Diolch i’r drefn, mae Gwent yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo, sy'n cael ei adlewyrchu'n gyson yn yr ystadegau troseddau swyddogol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Byddaf yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf sydd wedi'u sefydlu eisoes ac yn atgyfnerthu'r llwyddiannau a gyflawnwyd ochr yn ochr â Heddlu Gwent a phartneriaid. Gwent yw un o'r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig ac rwy'n ddiwyro yn fy ymrwymiad i sicrhau bod hyn yn parhau."

Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd newydd wedi’i seilio ar fframwaith perfformiad i sicrhau ei fod yn cefnogi'r gwaith o fonitro a gwerthuso'r cynnydd a wnaed gan Heddlu Gwent, rhaglenni a ariennir a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.

Bydd y Prif Gwnstabl yn darparu cynllun cyflawni blynyddol manwl o'r gweithgareddau a gynigir i gyflawni canlyniadau fy nghynllun o safbwynt plismona.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd newydd yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer plismona yng Ngwent.

“Mae plismona'n dibynnu ar bartneriaethau da i lwyddo. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaethau â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill, ond wrth gwrs mae'n dibynnu ar bartneriaethau cryf â'n cymunedau ein hunain.

“Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas wych sydd gennym ar hyn o bryd â phob un o'r uchod a pharhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau llwyddiant y cynllun hwn.”

Cynllun Heddlu a Throsedd 2021 - 2025