Comisiynydd yn gwneud addewid i helpu i leihau marwolaethau ar y ffyrdd

30ain Medi 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi addo chwarae ei rhan wrth helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Gwent.

Mae'r Comisiynydd Mudd wedi ymuno â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd ledled y wlad i wneud addewid Prosiect EDWARD i weithio gyda'u heddluoedd a phartneriaid eraill tuag at nod o fod â dim marwolaethau nac anafiadau ar y ffordd.

Mae Prosiect EDWARD yn sefyll am Every Day Without a Road Death ac fe'i sefydlwyd yn 2016 i arddangos a rhannu arfer da mewn diogelwch ar y ffyrdd. Bob blwyddyn mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan mewn wythnos o weithredu wedi'i thargedu ar gyfer Prosiect EDWARD mewn partneriaeth â chynghorau lleol, y gwasanaeth tân ac achub, a'r DVLA i daclo gyrru anniogel ledled Gwent.

Dywedodd y Comisiynydd Mudd: "Rydyn ni i gyd eisiau byd lle nad oes unrhyw un yn cael ei ladd na'i anafu ar ein ffyrdd, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu yn fy amser fel Comisiynydd i weithio tuag at y nod hwn.

"Gellid bod wedi osgoi bron pob digwyddiad traffig sy'n arwain at anaf difrifol a marwolaeth. Mae'n rhaid i ni barhau i addysgu gyrwyr am beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, goryrru, a defnyddio ffonau symudol, a phwysigrwydd gwisgo gwregysau diogelwch a chynnal a chadw cerbydau'n iawn.

"Diolch byth, mae nifer y marwolaethau ar ffyrdd yng Ngwent yn parhau i fod yn gymharol isel ond mae hyd yn oed un farwolaeth yn un yn ormod. Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd tuag at y nod o fod â dim marwolaethau nac anafiadau ar ein ffyrdd ac i wneud cymunedau Gwent yn fwy diogel i bawb."