Comisiynydd yn canmol gwirfoddolwyr plismona

3ydd Hydref 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi canmol gwirfoddolwyr sy'n helpu'r heddlu i ddiogelu a gwasanaethu pobl Gwent.

Ymunodd y Comisiynydd Mudd â chydweithwyr o Heddlu Gwent mewn seremoni arbennig yn dathlu cyfraniad mwy nag 80 o wirfoddolwyr sy'n cefnogi plismona mewn amrywiol rolau.

Yn ogystal â 54 o Gwnstabliaid Arbennig, mae Heddlu Gwent yn cael cymorth gan 34 o Wirfoddolwyr Cymorth Heddlu, sy’n gweithio mewn meysydd fel atal troseddu, cefnogaeth y tonnau awyr, craffu a'r gwasanaeth caplaniaeth. Yn 2023 – 2024 cyfrannodd gwirfoddolwyr gyfanswm o fwy na 18,000 o oriau i gefnogi plismona yng Ngwent.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Os yw’n cefnogi Heddlu Gwent gyda mentrau atal troseddu, cynnig craffu a chyngor annibynnol, neu gefnogi swyddogion a staff gweithgar gyda'u gofal bugeiliol, mae gan bob gwirfoddolwr ran bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod yr heddlu'n darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'n trigolion.

“Mae pob awr sy’n cael ei threulio yn gwirfoddoli i gefnogi eich cymuned yn amser buddiol iawn. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwirfoddoli i gefnogi Heddlu Gwent am roi o'u hamser ar gyfer achos mor dda, ac am y gwahaniaeth y maent yn helpu i'w wneud i'n cymunedau.”