Comisiynydd yn canmol cynllun newydd i daclo troseddau manwerthu ym Mlaenau Gwent

20fed Medi 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi canmol menter partneriaeth newydd rhwng Heddlu Gwent a Chyngor Sir Blaenau Gwent i fynd i'r afael â throseddau manwerthu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r fenter Store Net yn rhoi radio i staff siop y gallant ei ddefnyddio i gysylltu â Heddlu Gwent a wardeniaid diogelwch cymunedol y cyngor. Mae'n caniatáu i staff ofyn am gymorth ar unwaith os bydd trosedd neu ddigwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol. Hyd yn hyn mae Aldi, Boots, Iceland a'r farchnad yng Nglynebwy, a Farmfoods a McDonalds ym Mrynmawr wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.

Cododd digwyddiadau treisgar ac ymosodiadau geiriol yn erbyn gweithwyr siopau 50% yn 22-23, tra bod troseddau dwyn o siopau wedi codi i'w lefelau uchaf mewn 20 mlynedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Rwy'n falch iawn o weld yr heddlu, y cyngor a busnesau lleol yn cydweithio i fynd i'r afael â throseddau manwerthu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent.

“Mae'r trais a'r cam-drin cynyddol a welsom tuag at staff siopau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn peri gofid mawr a gall adael pobl wedi trawmateiddio gormod i fynd i'r gwaith ac ennill bywoliaeth.

“Byddwn yn annog cymaint o fusnesau yn yr ardal â phosibl i gofrestru a helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."

Gall busnesau ym Mlaenau Gwent gofrestru ar gyfer Store Net drwy gysylltu â sarah.ridings@mrscomms.co.uk / 02920 810810