Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn agor digwyddiad rhyng-ffydd
Agorodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, ddigwyddiad rhyng-ffydd yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, ddydd Iau 14 Mawrth.
Roedd y digwyddiad, o'r enw Ni yw Cymru; Ffydd, Crefydd, Plismona a Chi, wedi'i gynllunio i roi gwell dealltwriaeth i'r rhai sy'n gweithio yn y byd plismona o'r materion sy'n wynebu cymunedau ffydd.
Cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn amrywiaeth o weithdai a chlywsant hefyd gan siaradwyr o gymunedau ffydd.
Meddai Mr Cuthbert: “Rwyf am i Went fod yn rhywle lle y gall pobl fyw a gweithio ac ymweld â hi heb ofn o brofi unrhyw fath o gasineb, gan gynnwys anoddefgarwch crefyddol.
“Mae deall ffydd a chrefydd yn hanfodol os yw'r heddlu am fagu hyder a chryfhau cydlyniad mewn cymunedau lleol, ac mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i weithio gyda'n gilydd i greu cymdeithas gadarnach a mwy deallus.”
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn cyn y saethu erchyll yn Seland Newydd. Gallwch ddarllen datganiad llawn am y digwyddiad yma.