Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd wedi’i hethol ar gyfer Gwent
Mae Jane Mudd wedi cael ei hethol fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd newydd Gwent.
Mae hi’n olynu Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert, sydd wedi dal y swydd ers 2016.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd:
“Rwyf yn eithriadol o falch i gael fy ethol gan bobl Gwent i fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Hoffwn ddiolch i’r ymgeiswyr eraill am ymgyrch deg. Rwyf yn arbennig o falch bod dau ymgeisydd benywaidd arall ar y papur pleidleisio gyda mi. Rwyf yn falch i fod y fenyw gyntaf erioed i gael ei hethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gwent. Hoffwn ddweud wrth drigolion Gwent, p’un a wnaethoch chi bleidleisio drosof i neu beidio, y byddaf yn gwneud fy ngorau drosoch chi yn y rôl yma.