Comisiynydd Gwent yn rhoi croeso pwyllog i Addewid y Prif Weinidog i recriwtio Swyddogion Ychwanegol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ymateb i addewid y Prif Weinidog i recriwtio 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol ledled Cymru a Lloegr dros y tair blynedd nesaf.
Ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd Mr Cuthbert ei fod yn croesawu sylwadau'r Prif Weinidog newydd Boris Johnson mewn egwyddor, ond rhybuddiodd bod angen rhagor o fanylion arnom ni ynghylch sut bydd y cynllun hwn yn cael ei ariannu ar sail hirdymor, gynaliadwy.
"Mae cyhoeddiad Mr Johnson yr wythnos hon yn newyddion da mewn egwyddor, ond yn y manylion mae'r maglau", meddai Mr Cuthbert.
“Ers i mi ddod i'r swydd i ddechrau, rwyf i a'm cyd Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi bod yn ymgyrchu dros gael Llywodraeth y DU i gynyddu cyllid ar gyfer ein gwasanaethau heddlu a lleihau pwysau ar gymunedau lleol.
"Yma yng Ngwent, mae ein cyllideb wedi cael ei lleihau 40% mewn termau real ers dechrau rhaglen gyni Llywodraeth y DU yn 2010/11.
"Mae hyn wedi golygu nad oedd gen i ddim dewis ond gwneud arbedion y gellir eu troi’n arian o bron i £50 miliwn a throi at y cyhoedd am gefnogaeth trwy gynyddu lefel y praesept lleol.
"Diolch i'w cefnogaeth barhaus rydym wedi gallu recriwtio dros 400 o swyddogion heddlu ers 2016, y mae bron i 150 ohonynt yn swyddi plismona newydd.
"Maen nhw'n helpu i fynd i'r afael â throseddau mewn meysydd arbenigol, gan warchod y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Fodd bynnag, gyda chostau byw yn cynyddu trwy'r amser, ni allwn ddibynnu ar dalwyr treth y cyngor lleol yn unig i gynnal hyn. Mae buddsoddiad difrifol gan Lywodraeth y DU yn hanfodol.
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y swyddogion ychwanegol hyn yn cael eu hariannu gan arian newydd gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na bod baich y gost yn cael ei roi ar y talwyr treth cyngor unwaith eto, sydd dan bwysau yn barod.
"Mae fy nghyd Gomisiynwyr a minnau'n aros i weld sut mae Mr Johnson yn bwriadu gwireddu'r addewid hon.
"Rwy'n gobeithio nad yw'r Prif Weinidog yn chwarae gêm wleidyddol gyda phlismona."