Comisiynwyr yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt, i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ran Llywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru.
Mae'r memorandwm yn cadarnhau ymrwymiad cyffredin i barhau i weithio mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion pobl ledled Cymru.
Mae'n nodi addewid ar y cyd i gyflawni ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr troseddu, defnyddio dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar dystiolaeth, mabwysiadu egwyddorion gwrth-hiliol, cefnogi gwneud penderfyniadau strategol, ac amddiffyn cymunedau ledled Cymru.
Dywedodd Jane Mudd: "Gyda'r newidiadau i blismona yng Nghymru yn y dyfodol yn parhau i fod yn aneglur, mae'n bwysicach nac erioed ein bod yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i'n trigolion bod busnes yn parhau fel arfer.
"Mae gennym bartneriaeth gref gyda Llywodraeth Cymru, sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r gwasanaeth gorau i'r bobl yn ein cymunedau."