Cofiwn nhw
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi coffáu Diwrnod y Cadoediad mewn seremoni ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwm-brân.
Dywedodd: "Mae hwn yn amser i gymunedau ddod at ei gilydd a chofio'r aberth eithaf a wnaed gan gynifer o ddynion a menywod wrth wasanaethu eu gwlad. Buont farw er mwyn ein rhyddid ni. Diolchwn i chi ac yn angof ni chewch fod.
"Yn ogystal â chofio'r rhai fu farw, rhaid i ni gofio hefyd am y rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu dros eu gwlad. Rwyf wedi cael y fraint o fynychu digwyddiadau Cofio ledled Gwent dros yr wythnos ddiwethaf ac rwyf wedi fy nghyffwrdd a fy hymostwng i siarad â chynifer o gyn-aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog.
"Ni fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf ohonom fyth wybod yr erchyllterau a'r caledi y bu'n rhaid iddynt eu dioddef, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod eu haberth i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
"Ar ran fy hun, a phobl Gwent yr wyf yn eu cynrychioli, hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich gwasanaeth pwysig i'ch gwlad."