Codi sbwriel yn Y Fenni
4ydd Mai 2023
Yn ddiweddar ymunodd fy nhîm â phartneriaid sy'n ymwneud ag adeiladu'r orsaf heddlu newydd yn Y Fenni i godi sbwriel yn yr ardal.
Ynghyd â chydweithwyr o Heddlu Gwent, Pick Everard a Willmott Dixon, gwnaethant glirio'r ffyrdd a'r llwybrau o gwmpas y safle adeiladu.
Mae lleoliad yr adeilad newydd ar yr A465 yn Llan-ffwyst yn golygu y gall tîm cymdogaeth Heddlu Gwent fynd ar batrolau cerdded yn hawdd yng nghanol y dref, a bydd gan geir sy'n ymateb i alwadau fynediad da at y rhwydweithiau ffyrdd lleol ar gyfer galwadau brys.
Bydd Heddlu Gwent yn cadw ei wasanaeth desg flaen i gwsmeriaid yn Neuadd y Dref Y Fenni.