Codi Llais yn erbyn Cam-drin a Thrais Rhywiol
Mae goroeswr masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol wedi ymuno â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, i alw ar ddioddefwyr cam-drin a thrais rhywiol i godi llais.
Yr wythnos hon (dydd Llun 5 Chwefror tan ddydd Sul 11 Chwefror) yw Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, ac mae sefydliadau ledled y wlad yn codi ymwybyddiaeth o sut i’w atal, yn defnyddio’r hashnod #itsnotok ar y cyfryngau cymdeithasol.
Jeff Cuthbert sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr yn ardal Gwent. Yn ddiweddar, cyfarfu ag Alan Gordon Milne, 55 mlwydd oed mewn digwyddiad Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern a drefnodd mewn partneriaeth â Joyce Watson AC yng Nghaerdydd. Bu Alan, sy’n byw yng ngogledd Cymru yn awr, yn ddigon dewr i rannu ei brofiadau fel dioddefwr masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol yn y 1980au yn y digwyddiad. Yr wythnos hon mae Alan yn rhannu ei hanes er mwyn rhybuddio pobl eraill o’r peryglon, annog mwy o bobl i riportio’r troseddau hyn ac i dynnu sylw at sut y gall unrhyw un, ni waeth beth yw ei gefndir, ddod yn ddioddefwr cam-drin a thrais rhywiol.
Roedd Alan, a gafodd ei fagu yn Sussex, o gefndir breintiedig a chafodd ei addysgu yn un o’r ysgolion preifat gorau yng Nghaint. Fodd bynnag, ar ôl methu ei Lefel A a heb fod â syniad clir am ba gyfeiriad i’w ddilyn, aeth i Lundain i chwilio am antur ac amgylchedd a bywyd mwy iachusol. Cysgodd ar loriau gwahanol bobl nes i ddyn hŷn o’i orffennol roedd yn ei adnabod yn dda iawn roi llety iddo a’i baratoi i bwrpas rhyw.
Chwaraeodd y dyn ar angst ac ansicrwydd Alan. Pan oedd Alan tua 17 oed aeth y dyn ag ef trwy dwyll i fflat yn Llundain at yr hyn, yn ddiarwybod i Alan, a oedd yn griw o fasnachwyr pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol. O fewn munudau o fynd i mewn i’r fflat, cafodd ei dreisio a chafodd ei ddal a’i gam-drin yn rhywiol gan arweinydd y criw yn y fflat am bythefnos. Dros y pedair blynedd nesaf, cafodd Alan ei fasnachu o gwmpas gwahanol rannau o Ewrop fel yr Almaen, Sbaen, Ffrainc a’r Eidal. Dan fygythiad, disgwylid iddo gael rhyw gyda dynion ac roedd yn gorfod gweithio’n ddi-dâl i arweinydd y criw. Dim ond cyswllt dan reolaeth lem, os o gwbl, y caniatawyd iddo’i gael gyda theulu a ffrindiau.
Ar ôl sawl ymdrech aflwyddiannus, llwyddodd Alan i ddianc oddi wrth arweinydd y criw. Ymhen amser llwyddodd i ddod o hyd i waith yn y theatr fel saer setiau a dechreuodd ei deulu ei hun. Fodd bynnag, roedd ei orffennol yn hunllef iddo, yn y diwedd collodd afael ar ei fywyd teuluol a chollodd bopeth. Dim ond ar ôl gwylio rhaglen ddogfen ar y teledu am gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl ychydig flynyddoedd yn ôl y sylweddolodd Alan yn llwyr beth oedd wedi digwydd iddo a dyna pryd y cafodd yr hyder a’r dewrder i ffonio llinell gymorth Caethwasiaeth Fodern. Yn y pen draw, rhoddwyd Alan, sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru, mewn cysylltiad â BAWSO, sefydliad trwy Gymru gyfan sy’n darparu gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys cymorth i ddioddefwyr masnachu pobl. Gyda chymorth gan BAWSO, mae Alan yn ceisio ailadeiladu ei fywyd yn awr ac adennill rheolaeth.
Wrth annog dioddefwyr i godi llais, dywedodd Alan: “Cefais fy nhargedu yn ôl y sôn oherwydd fy sefyllfa fregus. Roedd y criw arfer siarad am bobl y byddent yn eu targedu a sut roeddent yn dewis bechgyn a merched ifanc i’w paratoi i bwrpas rhyw. Roedd arweinydd y criw yn bresenoldeb corfforol mawr a oedd yn cadw rheolaeth lem ac roedd arfer brolio ynghylch sut roedd yn peri creulondeb corfforol a seicolegol i bobl. Roedd arnaf ofn garw am fy mywyd.
Mae meddwl fy mod wedi bod yn gaethwas ac yn ddioddefwr masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt yn anhygoel. Rwyf wedi treulio fy mywyd yn ymchwilio i hyn a cheisio dod i dermau â hyn. Rwy’n un o’r bobl hynny a syrthiodd trwy’r rhwyd. Hyd yn oed ar ôl 30 mlynedd, rwy’n dal i feddwl y byddant yn dod ar fy ôl ac yn fy nilyn. Dyna faint o reolaeth maen nhw’n ei orfodi arnoch chi. Arweiniodd at gwymp fy mhriodas a cholli fy nheulu a’m cartref. Roedd fy ymdeimlad o hunanwerth wedi cyrraedd y gwaelod isaf un.”
Ychwanegodd Alan: “Mae’n aruthrol o bwysig i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn. Fy neges i unrhyw ddioddefwr yw ceisio cael cymorth priodol cyn gynted â phosibl ond byddwch yn dyner ac yn garedig gyda chi eich hun. Cymerodd flynyddoedd lawer i mi gael y cymorth a’r gefnogaeth honno. Yn unol ag arfer y fframwaith Pŵer Bygythiad Ystyr, mae BAWSO wedi bod yn graig i mi. Maen nhw’n dosturiol, maen nhw’n ddidwyll, maen nhw’n benderfynol, maen nhw’n defnyddio ymagwedd syml ac maen nhw wedi bod yno byth ers hynny."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae cefnogi dioddefwyr ac atal mwy o niwed difrifol yn un o’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu. Mae gennym gymorth a chefnogaeth o’r radd flaenaf i ddioddefwyr yng Ngwent ac mae’n hollbwysig bod dioddefwyr cam-drin rhywiol a thrais rhywiol, hyd yn oed os na ddigwyddodd yn ddiweddar, yn gwybod bod rhywun yno bob amser i helpu. Mae’r ystadegau riportio troseddau diweddaraf yn dangos bod gan fwy o ddioddefwyr yr hyder i godi llais a riportio troseddau rhywiol yng Ngwent. Fodd bynnag, yn ogystal â rhoi cymorth, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth o gam-drin a thrais rhywiol a sut y gallwn ei atal.”
Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth, bydd negeseuon i annog dioddefwyr i ddod ymlaen yn cael eu rhannu ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #itsnotok.
Gall unrhyw un sydd am siarad â rhywun yn gyfrinachol am gam-drin neu drais rhywiol gysylltu â Heddlu Gwent ar 101, staff yng Nghanolfan Dioddefwyr Connect Gwent ar 0300 123 21 33 neu drwy’r cyfeiriad e-bost: connectgwent@gwent.pnn.police.uk