Codi llais er mwyn newid
Bob blwyddyn, mae o leiaf un o bob 12 menyw a merch ym Mhrydain yn profi trais neu gamdriniaeth.
Mae tair o bob pum menyw yn wynebu aflonyddu rhywiol, bwlio, neu gam-drin geiriol yn y gwaith.
Mae mwy na 100 o fenywod yn cael eu lladd gan ddynion bob blwyddyn.
Fel cymdeithas, mae’n rhaid i ni roi'r gorau i wneud esgusodion dros ymddygiad ac agweddau niweidiol tuag at fenywod a merched.
Rhaid i ni godi llais
Mae gadael i bobl ymddwyn yn rhywiaethol yn rhoi menywod a merched mewn perygl. Efallai bod jôcs rhywiaethol, gwawdio, syllu, a sylwadau amhriodol yn ymddangos yn ddibwys, ond maen nhw'n bwysig oherwydd eu bod yn gallu datblygu i fod yn gamdriniaeth a thrais.
Mae llawer o bobl yn credu bod troseddau fel ymosodiad neu aflonyddu rhywiol yn ddigwyddiadau prin, eithafol, ac nad ydynt yn berthnasol i’w bywydau bob dydd. Ond bob tro rydyn ni'n peidio â chodi llais pan mae rhywbeth yn teimlo'n anghywir, rydyn ni'n colli cyfle i osod esiampl well.
Mewn gwirionedd, mae camau gweithredu bach bob dydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae gwrthod chwerthin ar jôcs rhywiaethol, herio gwawdio, neu wrthwynebu syllu amhriodol yn helpu i roi terfyn ar ymddygiad sy'n gallu arwain at drais difrifol.
Rwyf yn falch bod y Dreigiau'n codi llais i gefnogi menywod a merched yng Ngwent, ac yn defnyddio eu dylanwad i ymdrin â'r broblem hon yn ein cymdeithas.
Maen nhw'n codi llais er mwyn ein menywod a merched. Fel y Dreigiau, rhaid i ni godi llais.
Os ydych chi wedi profi camdriniaeth, neu'n pryderu am rywun rydych chi'n ei adnabod, dywedwch wrth rywun.
Gallwch gysylltu â llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn i gael cyngor a chymorth ar 0808 80 10 800 neu ewch i https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.