Clwb ieuenctid newydd yn agor ym Mrynmawr
Roedd dros 40 o bobl ifanc yn bresennol yn agoriad clwb ieuenctid newydd yn Welfare Park, Brynmawr.
Cafodd gwesteion gyfle i roi cynnig ar Bîtbocsio a bod yn DJ yn ogystal â chwarae gemau gyda’u ffrindiau a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau eraill.
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent ac mae ar agor bob dydd Mercher i bobl fanc 11+ o 6pm – 8pm yn y Terrace Garden Tea Rooms.
Meddai Greg Morgan, rheolwr tîm gyda Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio am gyfnod hir i sefydlu clwb ieuenctid ym Mrynmawr ac rwyf wrth fy modd bod cymaint o bobl ifanc wedi troi allan ar gyfer y noson agoriadol.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau y bydd y clwb yn cynnig y mathau o weithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac rydyn ni’n brysur yn cynllunio ein rhaglen ar gyfer yr haf yn awr.”
Cyfrannodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent £550 tuag at gyfarpar i’r clwb.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ,Jeff Cuthbert: “Rwy’n falch i fod wedi cyfrannu at y clwb ieuenctid newydd ym Mrynmawr.
“Trwy gynnig cyfleoedd cadarnhaol fel hyn i blant a phobl ifanc gallwn helpu i’w cyfeirio nhw oddi wrth ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan eu helpu nhw i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a byw bywydau hapusach a mwy iach ar yr un pryd.”