Clod i swyddogion Heddlu Gwent yn y gwobrau dewrder
Roedd chwech o swyddogion Heddlu Gwent ymysg yr enwebeion a gafodd eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Dewrder yr Heddlu 2020 yn Llundain. Cafodd y gwobrau eu gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig.
Enwebwyd Rhingyll Heddlu Richard Shapland, Rhingyll Heddlu Sarah Breakspear a Chwnstabliaid Heddlu Lloyd Read, Paul Taylor, Craig Bracegirdle a Peter Whittington am eu dewrder eithriadol yn wynebu dyn a oedd wedi baricedio ei hun yn ei fflat wedi’i arfogi gyda chyllell a gwaywffon.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ffederasiwn Heddlu Lloegr a Chymru ac fe’i noddwyd gan Police Mutual.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Mae swyddogion heddlu yn rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd yn rhan o’u dyletswydd i amddiffyn ein cymunedau. Rwyf wrth fy modd bod dewrder eithriadol y swyddogion hyn wedi cael ei gydnabod a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwasanaeth parhaus, ac am bopeth maen nhw’n ei wneud bod bydd i gadw trigolion yn ddiogel.”