Clod i Heddlu Gwent gan yr arolygiaeth
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wedi canmol Heddlu Gwent am wella cywirdeb wrth gofnodi troseddau, yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (yr Arolygiaeth).
Mae'r adroddiad yn canmol Heddlu Gwent am ei arweinyddiaeth gadarn a gwaith effeithiol wrth gofnodi troseddau a hysbysir gan bobl fregus, megis dioddefwyr troseddau rhywiol a chaethwasiaeth fodern.
Caiff y gwasanaeth ei ganmol hefyd am roi'r holl argymhellion a wnaed yn adroddiad uniondeb data troseddau'r Arolygiaeth 2014 ar waith yn llawn.
Dywedodd y Comisiynydd Jeff Cuthbert: “Mae'r adroddiad yn canmol Heddlu Gwent am ei waith cofnodi moesegol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr, yn arbennig yr ymdrechion i wella'r pwynt cyswllt cyntaf.
“Rwyf yn cydnabod bod rhai meysydd y mae angen i Heddlu Gwent eu gwella, yn ymwneud yn bennaf â hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, ac mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella.
“Byddaf yn trafod y canfyddiadau hyn gyda'r Prif Gwnstabl ac yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion er mwyn sicrhau bod troseddau'n cael eu cofnodi'n effeithiol a bod dioddefwyr troseddau yng Ngwent yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams: “Mae dioddefwyr yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud ac rydym yn dal i roi blaenoriaeth iddynt. Mae gennym dimau a swyddogion arbenigol sy'n canolbwyntio ar ein pobl fwyaf bregus ac rydym yn parhau i gyflwyno mesurau newydd i ddarparu cymorth i'r bobl hyn.
“Rydym wedi cyflwyno tîm ymyrryd mewn argyfwng yn ein hystafell reoli galwadau yn ddiweddar er mwyn gallu ymateb yn arbenigol i alwadau cam-drin domestig, cynnig cymorth pellach i'n staff ni sy'n derbyn y galwadau hyn a'r dioddefwyr eu hunain.
“Rydym wedi gweld mwy o orchmynion amddiffyn trais domestig yn cael eu defnyddio i amddiffyn dioddefwyr camdriniaeth fel hyn ac rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda dioddefwyr i drafod eu profiadau o'n gwasanaeth i sicrhau ein bod yn parhau i wella.
“Rwy'n falch i weld bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ein hymroddiad yn y maes hwn ynghyd â'n hymrwymiad i weithredu yn sgil argymhellion blaenorol sydd wedi arwain at wella ein gwasanaeth i'n cymunedau.”
Mae'r adroddiad llawn ar-lein ar wefan yr Arolygiaeth www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/news/news-feed/effective-oversight-has-positive-impact-on-gwent-polices-crime-recording-decisions-inspectors-find