Clod gan y Comisiynydd i dimau plismona cymdogaeth Gwent yn ystod Wythnos Plismona Cymdogaeth
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol timau plismona cymdogaeth lleol Gwent a'r gwaith maen nhw'n ei wneud i gadw cymunedau'n ddiogel.
Mae timau cymdogaeth yn cynnwys prif arolygwyr, arolygwyr, rhingylliaid, cwnstabliaid, swyddogion cymorth cymunedol, gwirfoddolwyr yr heddlu, timau arbenigol a mwy, ac maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r troseddau sy'n effeithio fwyaf ar drigolion Gwent
Mae'r timau'n chwarae rhan hollbwysig mewn cymunedau, yn gweithio i ddatrys problemau lleol ac atal trosedd rhag digwydd.
Wythnos o weithredu cenedlaethol yw Wythnos Plismona Cymdogaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gyda'r nod o dynnu sylw at y gwaith hwn ledled y DU.
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, sy'n arwain ar blismona lleol i Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Dywedodd: "Mae natur trosedd yn esblygu, a rhaid i blismona esblygu hefyd. Mae timau cymdogaeth Gwent yn ymdrin â throsedd yn rhagweithiol yn ein cymunedau, gan weithio gyda thrigolion a busnesau i fynd i'r afael â phroblemau ac atal trosedd rhag digwydd.
“Maen nhw'n gwneud gwaith ardderchog yn cadw ein cymunedau'n ddiogel ac amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed, ac rwyf yn falch o’r cyfle hwn i ddathlu'r gwaith da maen nhw'n ei wneud.”
Mae tri phrif nod yn sail i waith plismona cymdogaeth Heddlu Gwent:
- Meddwl am ffyrdd newydd o fynd i'r afael â throsedd. (Datrys Problemau)
- Atal trosedd rhag digwydd yn y lle cyntaf. (Ymyrraeth Gynnar)
- Meithrin cysylltiadau cadarn gyda'n cymunedau. (Ymgysylltu)
Mae'r timau lleol yn gweithio gyda sefydliadau partner a chymunedau i siarad yn agored am bryderon a gweithredu er mwyn atal a lleihau trosedd, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Roberts:
“Mae ein timau cymdogaeth yn chwarae rhan ganolog yn sicrhau diogelwch ein cymunedau. Rwyf yn eithriadol o falch o'r gwahaniaeth mae swyddogion wedi ei wneud yng Ngwent.
“Yr wythnos hon rydym yn dangos rhywfaint o'r gwaith rydym yn ei wneud i atal trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r camau rydym yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed.
“Rhan fawr o blismona cymdogaeth yw bod allan yn y gymuned yn siarad â thrigolion lleol, busnesau a phartneriaid. Trwy ddatblygu gwell cysylltiadau gallwn greu blaenoriaethau plismona lleol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel.
"Mae ein cymunedau’n chwarae rhan hollbwysig yn llywio ein hymateb i drosedd yn lleol. Trwy rannu gwybodaeth, boed hynny wrth riportio ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101, wrth ymweld ag un o'n cymorthfeydd heddlu neu drwy aros i siarad â ni ar y stryd, rydych yn ein helpu ni i lunio ein hymateb a dwyn y rhai sy'n difetha ein cymunedau gerbron y llysoedd.
"Trwy barhau i weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo."
Yn ystod yr wythnos bydd Heddlu Gwent yn dangos gwaith ei dimau cymdogaeth ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch am @HeddluGwent ar Facebook, Instagram a Twitter.