CHTh yn ymweld â digwyddiad Gwlad Hud y Coetir
Yn ddiweddar, ymwelodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, â gwirfoddolwyr yng Ngwarchodfa Natur Coetiroedd Bryn Sirhywi i ddangos ei chefnogaeth i'w digwyddiad Gwlad Hud y Coetir.
Mae'r gwirfoddolwyr yn rheoli ardaloedd coetir ar draws Blaenau Gwent ac yn trefnu casglu sbwriel, diwrnodau llesiant, a gweithgareddau i blant.
Anogodd y digwyddiad ymwelwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau a gweithgareddau hwyliog a oedd wedi'u cynllunio i gynyddu eu dealltwriaeth o'r amgylchedd gwledig.
Dywedodd Jane Mudd: "Roedd yn hyfryd cwrdd â'r gwirfoddolwyr a gweld pa mor galed maen nhw'n gweithio er budd eu cymuned.
"Mae eu hymroddiad i amddiffyn a gwella ein mannau naturiol yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â chymunedau at ei gilydd, cysylltu pobl â natur a hyrwyddo llesiant."