CHTh yn holi’r Prif Gwnstabl ynghylch adroddiad arolygu HMICFRS
Cynhaliodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus arbennig gyda'r Prif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod y gwelliannau a wnaed yn dilyn adroddiad arolygu diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (HMICFRS) ar gyfer yr heddlu. Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mehefin 2025.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae adroddiad diweddaraf HMICFRS, er ei fod yn cydnabod y gwaith da a'r gwelliannau a wnaed ers yr arolygiad blaenorol yn 2023, hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen i Heddlu Gwent eu gwella.
"Fel rhan o fy ymrwymiad i fod yn agored, yn onest a thryloyw gyda'n trigolion, holais y Prif Gwnstabl am y materion hyn ar gamera. Rwyf eisiau i'r cyhoedd weld bod craffu yn digwydd a'n bod yn gweithio i greu gwasanaeth heddlu y gellir ymddiried ynddo, sy’n effeithiol, ac yn ymatebol i anghenion ein cymunedau.
"Penodais y Prif Gwnstabl Hobrough ym mis Rhagfyr 2024 i sbarduno newid o fewn Heddlu Gwent. Mae wedi rhoi model gweithredu newydd mewn grym, yr wyf yn hyderus ei fod yn cyflawni gwelliannau ar draws y llu, ac rwy'n gweld cynnydd cadarnhaol o’i gymharu â’r blaenoriaethau a nodir yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Rwy'n teimlo’n dawelach fy meddwl ynghylch y cynnydd y mae'n ei wneud yn erbyn adroddiad HMICFRS a byddaf yn parhau i fonitro hyn yn fanwl."