CHTh yn dathlu pencampwyr pêl-droed stryd StreetSoc

16eg Medi 2025


Roedd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ar ochr y cae dros y penwythnos i goroni Scorpions FC yn bencampwyr StreetSoc 2025, yn dilyn rownd derfynol gyffrous yng Nghanolfan y Mileniwm Pilgwenlli.


Mae StreetSoc yn gynghrair bêl-droed wyth bob ochr wythnosol sy'n cael ei rhedeg gan Sefydliad Dreigiau Bengal, a gynhelir dros yr haf yng Nghanolfan y Mileniwm Pilgwenlli.

Daeth timau o bob rhan o Gasnewydd at ei gilydd i gystadlu yn y gynghrair, sydd â’r nod o hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, dod â chymunedau at ei gilydd, a thywys pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Noddwyd y gynghrair eleni gan Jane Mudd, Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ac fe ddywedodd:

"Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r twrnamaint ffantastig hwn, ac roedd yn wych gweld y timau'n brwydro mewn rownd derfynol mor gystadleuol a brwdfrydig. Llongyfarchiadau enfawr i Scorpions FC y mae eu gwaith caled a'u dyfalbarhad dros y saith wythnos diwethaf wedi dwyn ffrwyth heb amheuaeth.

"StreetSoc yw'r union fath o fenter ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau. Mae'n dod â phobl o bob cwr o'r ddinas ynghyd trwy angerdd pêl-droed a rennir gan annog cystadleuaeth iach mewn amgylchedd hwyliog.

"Mae'r angerdd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan yr holl dimau wedi bod yn ysbrydoledig, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd StreetSoc yn dychwelyd y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well hyd yn oed."