Ceisio barn pobl am wasanaethau 101 a 999
Gofynnir i drigolion Gwent rannu eu profiadau o wasanaethau 101 a 999, yn ogystal â'r dulliau y byddent yn hoffi eu defnyddio i gysylltu yn y dyfodol.
Mae arolwg cyswllt Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn rhedeg tan hanner nos ddydd Sul, 26 Mehefin.
Gofynnir cyfres o gwestiynau i drigolion i weld faint maen nhw'n ei ddeall am systemau riportio brys a difrys, yn ogystal â'r ffyrdd newydd o gysylltu â'r heddlu fel gwe-sgwrs, ffurflenni ar-lein a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd yr arolwg yn helpu lluoedd heddlu, y Swyddfa Gartref a chomisiynwyr lleol gydag unrhyw heriau'n ymwneud â riportio wrth yr heddlu ac yn helpu gyda chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cwblhewch yr arolwg