Ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

9fed Hydref 2025

Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol neu elusennau yng Ngwent wneud cais am grantiau o hyd at £5000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, ac sy’n helpu i leihau trosedd a gwella diogelwch yn eu cymuned.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis mewn digwyddiad cyfranogol ym mis Mawrth 2026 sy'n galluogi pobl leol i benderfynu pa fentrau fyddai'n rhoi'r sylw gorau i broblemau lleol.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi buddsoddi £65,000 yn y gronfa.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwy'n falch i gefnogi Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent eto eleni. Bydd y cyllid hwn yn helpu grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i barhau eu gwaith hollbwysig gyda phobl ifanc ledled ein cymunedau.

“Os yw eich grŵp chi'n cynnal prosiect sy'n creu cyfleoedd cadarnhaol i blant a phobl ifanc, yn arbennig rhai sy'n eu cyfeirio nhw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yna byddwn yn eich annog chi i wneud cais.  Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth parhaol go iawn."


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.