Ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

3ydd Hydref 2024

Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol neu elusennau yng Ngwent wneud cais am grantiau o hyd at £5000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, ac sy’n helpu i leihau trosedd a gwella diogelwch yn eu cymuned.

Penderfynir pwy fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus mewn digwyddiad cyfranogol sicrhau grantiau ym mis Mawrth 2025 sy'n caniatáu i bobl leol benderfynu pa fentrau fyddai'n mynd i'r afael â materion lleol orau.

Mae swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn gwneud cyfraniad blynyddol i'r gronfa.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Eleni rwy'n falch o gyfrannu £65,000 tuag at Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent i helpu i sicrhau bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn gallu cael gafael ar gyllid hanfodol i gefnogi pobl ifanc yn eu hardal.

“Os yw eich grŵp yn cynnal prosiect sy'n creu cyfleoedd cadarnhaol i blant a phobl ifanc, gan gynnig dewis amgen i gymryd rhan mewn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol iddynt, yna byddwn yn eich annog i wneud cais a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth."

Am fanylion ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.