Cefnogi dysgwyr yng Nglynebwy a Chasnewydd
23ain Chwefror 2024
Yr wythnos yma gwnaethom gefnogi partneriaid o Goleg Gwent mewn cyfres o ddiwrnodau lles i fyfyrwyr yng nghampysau Glynebwy a Chasnewydd.
Mae'r digwyddiadau yma'n gyfle da i godi ymwybyddiaeth o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ymysg dysgwyr a rhoi gwybodaeth a chyngor ar faterion fel cam-drin a thrais domestig, a chadw'n ddiogel ar-lein.
Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddweud eu dweud a lleisio barn am y materion sydd fwyaf pwysig iddynt.
Os hoffech chi i ni ymweld â'ch grŵp, cyfarfod neu ddigwyddiad, cysylltwch â'r swyddfa.