Cefnogi Cwis Cenedlaethol Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu
Roeddem yn falch i gefnogi trydydd Cwis Cenedlaethol Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu a oedd yn cael ei gynnal gan Heddlu Gwent eleni.
Ymunodd dros 60 o Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o bob rhan o'r DU â chadetiaid Gwent ar gyfer cwis rhyngweithiol chwim.
Ar hyn o bryd mae 145 o Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yng Ngwent. Mae'r cynllun yn galluogi pobl ifanc rhwng 13 ac 18 i ddod yn fwy ymwybodol o blismona a'i rôl mewn cymunedau.
Mae hefyd yn gwreiddio ethos o ddinasyddiaeth gadarnhaol sy'n hollbwysig er mwyn dod yn oedolyn deallus ac mae'n helpu i greu sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol cadarnhaol.
Diolch i'r holl Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu a gymrodd ran, ac i dîm NXTGen Heddlu Gwent sydd wedi gwneud gwaith amhrisiadwy yn annog pobl ifanc yng Ngwent i ddod yn gadetiaid.
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Cadetiaid Heddlu Gwent, ewch i wefan Heddlu Gwent