Cefnogaeth gan y Comisiynydd i ddiwygiad i’r bil plismona

19eg Hydref 2021

Rwyf yn cefnogi diwygiad arfaethedig y Farwnes Bertin i’r Bil Plismona (Llywodraeth y DU), sy’n ceisio cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y diffiniad cyfreithiol o ‘drais difrifol’.

Nid yn unig byddai hyn yn anfon neges bwysig na fydd trais o unrhyw fath yn cael ei oddef, byddai hefyd yn creu cyfleoedd ychwanegol i fynd i’r afael â’r problemau hyn trwy Unedau Lleihau Trais. Mae Unedau Lleihau Trais yn dwyn asiantaethau partner at ei gilydd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddau treisgar ond yn draddodiadol maen nhw wedi cael eu sefydlu i ganolbwyntio ar broblemau fel troseddau cyllyll, a throseddau difrifol a threfnedig.

Byddai dod â cham-drin domestig a thrais rhywiol o fewn cylch gwaith Unedau Lleihau Trais yn cyd-fynd â’r gwaith partner rydym yn ei wneud eisoes i fynd i’r afael â’r problemau hyn, ac yn ein galluogi i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer y materion hollbwysig hyn.