Canolfan pobl ifanc Y Fenni'n derbyn hwb gan yr Uchel Siryf
Mae Canolfan 7Corners yn Y Fenni wedi derbyn £5,000 gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Mae'r ganolfan yn agor ei drysau i bobl ifanc bum diwrnod yr wythnos a bydd yn defnyddio'r arian i gefnogi ei ddarpariaeth i ieuenctid.
Yn ogystal â chynnal nosweithiau ffilm a gweithgareddau rheolaidd mae'r ganolfan yn fan diogel lle gall pobl ifanc gael cymorth a chefnogaeth.
Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth gyda phobl ifanc ym Mharc Bailey gerllaw, lle mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd. Maen nhw'n cynnig bwyd a diodydd poeth iddyn nhw, ac yn gwrando ar eu pryderon.
Meddai Ange Sampson, rheolwr y ganolfan: "Allai'r arian yma ddim bod wedi dod ar adeg well. Gwnaethom golli ein ffynhonnell incwm rheolaidd, a oedd yn dod o rentu ein hystafelloedd yn y ganolfan, oherwydd y pandemig. Nawr bod pobl wedi arfer cynnal cyfarfodydd ar-lein, does dim galw am y gwasanaeth yma bellach.
"Bydd yr arian hwn yn ein helpu ni i barhau i fod yna i'r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf."
Nod Cronfa Uchel Siryf Gwent yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl ifanc Gwent trwy gefnogi prosiectau sy'n helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyfrannu £65,000 at Gronfa'r Uchel Siryf.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn falch ein bod wedi gallu cefnogi Canolfan 7Corners a'r gwaith da mae'r tîm yn ei wneud i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Y Fenni."