Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd
6ed Rhagfyr 2023
Gwnaethom ymuno â phartneriaid yn Senghennydd yng Nghwm Aber ar gyfer cyfarfod cyffredinol blynyddol Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd (Sydic) yr wythnos yma.
Mae Sydic yn derbyn arian gan gronfa gymunedol y Comisiynydd ar hyn o bryd i dalu am uwch weithiwr ieuenctid i gefnogi plant a phobl ifanc yn y gymuned, ac roedd yn dda cael adolygu rhai o lwyddiannau'r flwyddyn ddiwethaf.
Yn ddiweddar, gweithiodd pobl ifanc o Sydic gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i greu ffilm fer sy'n mynd i'r afael â bwlio. Cafodd y lansiad sylw ar ITV.