Canfod Eich Dyfodol
7fed Hydref 2022
Yr wythnos hon, cymerodd fy nhîm ran mewn digwyddiad Canfod Eich Dyfodol yng Nglynebwy.
Trefnwyd y digwyddiad gan GAVO a daeth â phartneriaid ynghyd i gynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.
Gwnaethom achub ar y cyfle i hysbysebu ein cynllun Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa. Mae’r bobl sy’n cynnal yr ymweliadau hyn yn wirfoddolwyr sy'n mynd yn ddirybudd i unedau’r ddalfa i sylwi ar driniaeth y rhai sy’n cael eu cadw yno, yr amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt, ac i sicrhau eu bod yn cael yr hyn y mae ganddyn nhw yr hawl iddo.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar fy ngwefan.