Camerâu cylch cyfyng newydd yn helpu i gadw Rhymni’n ddiogel
Mae chwe chamera cylch cyfyng cyhoeddus newydd wedi cael eu gosod mewn lleoliadau allweddol i helpu i fynd i’r afael â throseddau yn y gymdogaeth yn Rhymni.
Yn ogystal â’r camerâu, sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd ar Deras Lady Tyler, Stryd yr Eglwys, Stryd y Bryn, y gyffordd wrth Heol Merthyr, Dan y Graig a chyffordd traphont yr A465 ger Pontlotyn, mae goleuadau cyfagos a fydd yn helpu swyddogion i fynd i’r afael a throseddau cerbydau ac achosion o ddwyn tanwydd yn yr ardal.
Mae’r camerâu cylch cyfyng, sy’n rhan o brosiect Strydoedd Saffach Heddlu Gwent yn Rhymni, yn gallu cael eu symud i wahanol leoliadau hefyd - gan helpu i fynd i’r afael â throseddau yn y gymdogaeth, atal lladrad a chanfod troseddwyr posib.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae’r prosiect yn ganlyniad misoedd o waith partner rhwng fy swyddfa, Heddlu Gwent a’r awdurdodau lleol.
“Rwyf wrth fy modd i weld bod yr arian yn gwneud gwahaniaeth yn barod a bydd y camerâu cylch cyfyng hyn yn offer gwerthfawr i helpu Heddlu Gwent i gadw trigolion yn Rhymni’n ddiogel.”
Mae ymgyrch Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref yn rhoi cyfle i heddluoedd Cymru a Lloegr wneud cais am grantiau y gellir eu defnyddio ar fesurau atal troseddau yn eu cymunedau. Llwyddodd Heddlu Gwent i sicrhau bron i £300,000 (£299,777) o gyllid Strydoedd Saffach gan y Swyddfa Gartref yn gynharach eleni.
Fel rhan o brosiect Strydoedd Saffach yn Rhymni, mae Heddlu Gwent yn:
• helpu i wella diogelwch yn y cartref drwy gynnig offer diogelwch am ddim, gan gynnwys gwell cloeon ar ddrysau a ffenestri i’r rhai y mae eu hangen arnynt
• helpu i amddiffyn eitemau gwerthfawr preswylwyr rhag cael eu dwyn drwy ddosbarthu pecynnau marcio eiddo am ddim ac arwyddion cysylltiedig
• helpu i amddiffyn cerbydau rhag trosedd drwy osod camerâu cylch cyfyng cyhoeddus newydd.
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman, sef arweinydd yr heddlu ar droseddau meddiangar: “Rydyn ni am i bobl deimlo’n ddiogel yn yr ardaloedd maen nhw’n byw ynddyn nhw.
“Mae pob trosedd yn cael effaith negyddol ar y cyhoedd, felly mae unrhyw fesurau y gallwn eu cyflwyno i fynd i’r afael â’r problemau yma a gwneud i bobl deimlo’n llai ofnus o droseddau yn gam i’r cyfeiriad cywir.
“Mae’r tactegau y byddwn ni’n eu defnyddio yn Rhymni, yn ogystal â Philgwenlli yng Nghasnewydd, wedi’u cynllunio nid yn unig i atal a lleihau troseddau ond hefyd i helpu pobl i gadw eu hunain, eu hanwyliaid a’u heitemau pwysig yn ddiogel.”