Calan Gaeaf
28ain Hydref 2022
Mae'n benwythnos Calan Gaeaf a bydd digon o weithgareddau arswydus yn digwydd.
Cofiwch nad yw pawb yn gweld yr hwyl ac os gwelwch chi boster 'dim galwyr', peidiwch â galw yn y tŷ hwnnw.
I gadw gwrachod a dewiniaid bach yn ddiddan, mae Heddlu Gwent wedi creu pecyn gweithgareddau iasol, gyda chwileiriau, gemau a lliwio.
Lawrlwythwch eich pecyn gweithgareddau yma ar wefan Heddlu Gwent.