Cadwch yn ddiogel a mwynhewch Nadolig hapus
Mae'r flwyddyn hon wedi teimlo’n fwy normal rywsut ar ôl dwy flynedd o'r pandemig a chyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd. Fodd bynnag, nid oes dianc rhag y ffaith iddi fod yn un heriol arall.
Ym mis Chwefror ymosododd Rwsia ar Wcráin, gan achosi argyfwng ffoaduriaid mwyaf Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'r codiad dilynol mewn prisiau tanwydd, ynghyd ag argyfwng costau byw cynyddol, wedi cael goblygiadau gwirioneddol i'n cymunedau, gan gynnwys ein swyddogion a staff heddlu.
Bydd plismona fel sefydliad yn cael ei effeithio gan hyn a bydd yn rhaid cynnwys y costau cynyddol yn yr holl waith cyllidebu a chynllunio adnoddau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud a chyn i ni wneud hynny, rwyf am glywed eich barn.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad wedi bod yn destun craffu hefyd. Mae elfennau o ddiwylliannau amhriodol yn y gweithle, agweddau ac ymddygiadau annerbyniol yn dal i fodoli. Nid ydym yn rhydd rhag hyn yng Ngwent ac rydym yn mynd i’r afael â’r materion hyn fel mater o flaenoriaeth. Ond rwy'n credu'n gryf nad yw'r achosion a amlygwyd yn cynrychioli'r rhan fwyaf o swyddogion heddlu yng Ngwent sydd wedi ymrwymo i wasanaethu ac amddiffyn ein cymunedau.
Er gwaethaf yr heriau niferus dros y flwyddyn ddiwethaf mae'n bwysig cofio ein bod yn parhau i fyw yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU. Mae dros 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yng Ngwent yn awr na phan gefais fy ethol am y tro cyntaf yn 2016 ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n parhau i fod yn hynod falch ohono.
Mae plismona yn swydd sy'n gofyn llawer yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn aml mae hyn yn golygu bod swyddogion yn rhoi eu hunain mewn perygl personol mawr ac yn ymdrin â sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn gorfod dod ar eu traws yn ystod eu hoes, a diolch am hynny. Mae'r dynion a'r merched dewr hyn yn aml yn wynebu perygl go iawn ar y rheng flaen, a hoffwn ddiolch iddyn nhw ar ran pobl Gwent.
Rhaid i mi gydnabod a dweud diolch hefyd wrth ein partneriaid yn y gwasanaethau iechyd a thân, cynghorau lleol, gwasanaethau cymorth ac elusennau sydd wedi rhannu heriau'r blynyddoedd diwethaf ac sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, pobl Gwent. Rydym wedi gweld ysbryd cymunedol gwych yn parhau y tu hwnt i'r pandemig a phan rwyf wedi bod ar grwydr yn ein cymunedau, rwyf wedi cael fy nghalonogi yn clywed pobl yn canmol eu timau heddlu lleol. Gwn fod ein swyddogion heddlu yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth hon yn fawr.
Felly, diolch eto, a dymunaf Nadolig Llawen a blwyddyn newydd hapus ac iach i chi.