Cadetiaid yn cwblhau eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant
11eg Awst 2022
Roeddwn wrth fy modd yn ymuno â rhai o gadetiaid ifanc Heddlu Gwent ar gyfer eu parêd cwblhau hyfforddiant yr wythnos hon.
Mae'r bobl ifanc hyn wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant, ac mae'n rhaid i mi eu cymeradwyo am eu holl waith caled dros y 12 mis diwethaf.
Mae Cadetiaid yr Heddlu yn gynllun gwych sy'n caniatáu i bobl ifanc ddysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau wrth roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Heddlu Gwent.