Byddwn ni'n cofio
Yr wythnos hon gwnaethom ymuno fel cymunedau ledled Gwent i gofio'r aberth eithaf a wnaed gan gymaint o ddynion a menywod wrth iddynt wasanaethu eu gwlad.
Buon nhw farw er mwyn i ni fod yn rhydd. Diolchwn i chi, ac ni fyddwn byth yn anghofio.
Yn ogystal â chofio'r rhai a fu farw, gwnaethom dalu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Roedd yn wefreiddiol ac yn fraint cael siarad â llawer o aelodau'r fyddin, y llynges a'r llu awyr, ac i ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth.
Ni fydd y rhan fwyaf ohonom ni fyth yn profi'r erchyllterau a'r caledi y mae'n rhaid iddyn nhw eu hwynebu wrth gyflawni eu dyletswydd Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr aberthau maen nhw wedi gorfod eu gwneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
Yn dechrau gyda lansiad Apêl Pabi Gwent yng Nghoed-duon ddiwedd mis Hydref, roeddwn yn ffodus i ymuno â phreswylwyr ar gyfer digwyddiadau'r Cofio yng Nghaerffili, Casnewydd a Chwmbrân.
Cefais fod yn bresennol mewn gwasanaeth arbennig yng Nghaerdydd hefyd i nodi'r cyfraniad a wnaed gan y dynion a’r menywod o dreftadaeth ethnig yn y lluoedd arfog, cyfraniad sy'n cael ei anghofio'n aml iawn.
Ni fyddai'n bosibl cynnal y digwyddiadau pwysig hyn heb waith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr. Rhaid i mi dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr o'r Lleng Prydeinig am drefnu'r digwyddiadau hyn ac am sicrhau bod y Cofio yn rhan hollbwysig o'r hyn rydym yn ei wneud yr adeg hon o'r flwyddyn.
Yr hyn a'm tarodd i fwyaf yn ystod y digwyddiadau hyn oedd yr ymdeimlad o undod a chydlyniant ymysg pobl o wahanol oedrannau, ethnigrwydd a chefndiroedd a oedd wedi dod at ei gilydd i gofio.
Ar adeg pan mae rhai pobl yn mynd ati i ysgogi rhwygiadau, rhaniadau ac anfodlonrwydd yn ein cymdeithas, mae'r Cofio yn enghraifft brin o gymundod. Mae'n torri ar draws rhaniadau, yn pontio rhwng y cenedlaethau ac yn ein dwyn ni ynghyd i fyfyrio a diolch gyda'n gilydd.
Mae'n atgoffa pob un ohonom ni o'n dynoliaeth gyffredin, ein profiad cyffredin, a'n bod ni wir yn gryfach gyda'n gilydd.