Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn parhau i fuddsoddi mwy na £1 miliwn i amddiffyn plant a gwneud cymunedau'n fwy diogel
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn buddsoddi mwy na £1 miliwn yn 2025/26 mewn sefydliadau sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc rhag trosedd difrifol ac yn gwella diogelwch cymunedol.
Mae'r Comisiynydd wedi cytuno i adnewyddu contractau gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys St Giles Trust, Crimestoppers Trust a Casnewydd Fyw a fydd yn eu galluogi nhw i ddarparu eu rhaglenni gwaith yng Ngwent am flwyddyn arall. Bydd yn rhoi cyllid i bob un o awdurdodau lleol Gwent hefyd i gefnogi ymgyrchoedd troseddau ieuenctid a diogelwch cymunedol.
Mae'r buddsoddiad parhaus yn cefnogi blaenoriaethau'r Comisiynydd, a amlinellir yn ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd, sef atal trosedd, lleihau aildroseddu, gwneud cymunedau'n fwy diogel a rhoi cymorth i ddioddefwyr. Mae hefyd yn cefnogi gofyniad y Comisiynydd o dan Ddyletswydd Trais Difrifol Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cydweithio i leihau ac atal trais difrifol.
Meddai Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Os ydyn ni eisiau newid ein cymdeithas mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'n plant a phobl ifanc. Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n agored i ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydyn ni'n gwybod unwaith mae rhywun yn dechrau ar y llwybr hwnnw ei bod yn anodd iawn newid cyfeiriad yn ddiweddarach mewn bywyd.
"Mae dyletswydd arnom ni i wneud popeth y gallwn ni i amddiffyn a diogelu ein plant. Trwy barhau i ariannu'r prosiectau yma yng Ngwent rydyn ni'n sicrhau bod gennym ni ymateb cadarn mewn lle i ymdrin â'r problemau hyn a gwneud gwahaniaeth parhaol i'n cymunedau."
Ymysg y prosiectau a fydd yn parhau i dderbyn cyllid yn 2025/26 mae:
- St Giles Trust. £138,114 i ddarparu ymyrraeth un i un brys i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ymwneud â thrais difrifol a throseddau trefnedig neu'n ymwneud â nhw yn barod.
- Crimestoppers Trust. £45,947 i ddarparu'r rhaglen Fearless i ddisgyblion Blwyddyn 7 a rhoi cymorth pwrpasol i ysgolion mewn ardaloedd lle mae trais difrifol neu droseddau trefnedig yn broblem.
- Casnewydd Fyw£203,582 ar gyfer y rhaglen Dyfodol Cadarnhaol, sy'n darparu ymyraethau seiliedig ar chwaraeon i bobl ifanc ledled Gwent.
- Cyfraniad o £619,615 i awdurdodau lleol a phartneriaid tuag at ymgyrchoedd diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid lleol.