Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn buddsoddi i wneud cymunedau'n fwy diogel
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn buddsoddi £4m ychwanegol dros bedair blynedd i wneud cymunedau Gwent yn fwy diogel.
Wrth lansio ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, addawodd Comisiynydd Mudd y byddai'n buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n amddiffyn menywod a merched. Bydd hi'n ariannu mwy o wasanaethau i blant a phobl ifanc mewn ardaloedd lle gallant fod yn agored i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd.
Mae'r buddsoddiad yn cefnogi pum blaenoriaeth y Comisiynydd a amlinellir yn ei Chynllun. Y rhain yw:
- Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwneud ein cymunedau'n fwy diogel
- Amddiffyn pobl agored i niwed
- Rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr
- Lleihau aildroseddu
Datblygwyd cynllun y Comisiynydd ar ôl 10 mis o ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd a chafodd ei lansio yn Nhŷ Penallta Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Gwener 28 Mawrth. Mae'n nodi sut y bydd yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif o ran ei blaenoriaethau a sut bydd yn gweithio gyda phartneriaid a'r system cyfiawnder troseddol ehangach i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl Gwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Ers i mi gael fy ethol yn 2024, rwyf wedi bod yn ymweld â chymunedau ledled Gwent ac yn gofyn i bobl beth maen nhw eisiau ei weld gan eu heddlu. Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf eu bod eisiau gweld plismona mwy gweladwy a chymunedau mwy diogel. Maen nhw eisiau gweld mwy yn cael ei wneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac maen nhw eisiau i'r heddlu ymdrin ag achosion sylfaenol trosedd. Blaenoriaethau'r bobl yw fy mlaenoriaethau i.
"Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, ac mae angen buddsoddiad arnom ni i'w gyflawni. Rwyf yn falch o fod yn buddsoddi ym mhobl a chymunedau Gwent."
Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd yw'r glasbrint a ddefnyddir i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y gwasanaeth mae'r heddlu'n ei ddarparu i breswylwyr. Mae Comisiynydd Mudd wedi addo gwneud y broses yma'n fwy tryloyw a hygyrch i'r cyhoedd.
Dywedodd: “Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod Heddlu Gwent yn cynnig presenoldeb mwy gweladwy i bobl Gwent. Dylai hyn gynnwys eu Comisiynydd a'u Prif Gwnstabl hefyd. Mae hyn yn rhan o fy ymrwymiad gyda'r Prif Gwnstabl i feithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng ein preswylwyr a Heddlu Gwent.
"Hoffwn ddiolch i'r llawer o bobl sydd wedi rhoi o'u hamser dros y 10 mis diwethaf i siarad â mi a'r tîm. Y sgyrsiau hyn sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu cynllun rwyf yn credu bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau."
Meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Mark Hobrough: "Mae'r Comisiynydd a mi'n rhannu'r nod o wneud Gwent yn fwy diogel i'n cymunedau, amddiffyn pobl agored i niwed a gwella ansawdd bywyd preswylwyr.
"Mae'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd yma'n ategu ein hymrwymiad ar y cyd i ganolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy'n bwysig i'n cymunedau, a byddaf yn cael fy nwyn i gyfrif am gyflawni'r cynllun yma'n llwyddiannus."
"Fy nod yw gwella ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaeth heddlu trwy wella plismona cymdogaeth, gwneud swyddogion a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu yn fwy gweladwy, a sicrhau ein bod yn sefydliad cynhwysol, gofalgar, cyd-gysylltiedig sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."