Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
Yr wythnos yma cynhaliais fy nghyfarfod Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, sy'n cael ei gynnal bob tri mis. Dyma'r cyfarfod lle rwy'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn ffurfiol ar ran pobl Gwent.
Roedd y lleoliad ar gyfer y cyfarfod yma'n un ysgogol gan ei fod yn cael ei gynnal o fewn yr arddangosfa 'Words Matter' yr oeddwn i wedi trefnu iddi ddod i Bencadlys yr Heddlu i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn. Mae ‘Words Matter' yn gasgliad pwerus o waith celf sy'n ceisio ysgogi pobl i siarad am drais yn erbyn menywod a merched. Mae hyn yn rhywbeth rwyf yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch ac rwyf eisiau helpu i fynd i'r afael ag ef. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd rwyf yn bwriadu defnyddio'r holl bŵer sydd ar gael i mi i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid ehangach i weithredu er mwyn gwella profiad menywod a merched yma yng Ngwent.
Cawsom drafodaeth gynhyrchiol yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Brif Gwnstabl Dros Dro Mark Hobrough am sefyllfa Heddlu Gwent mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Arolwg PEEL Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS). Ystyr PEEL yw effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, a chyfreithlondeb yr heddlu. Mae gwaith i fodloni dros hanner yr argymhellion a wnaed wedi cael ei gwblhau yn awr ac esboniodd Prif Gwnstabl Dros Dro Hobrough sut mae cyfarfodydd arweinyddiaeth uwch yn helpu i sbarduno newid diwylliannol yn y sefydliad. Mae'n bwysig bod Heddlu Gwent yn rhoi sylw cyson i hyn yn awr ac yn parhau i fynd ati i sicrhau gwelliannau.
Yn ystod y cyfarfod y mis hwn:
- Gwnaethom gymryd golwg fanwl ar berfformiad Heddlu Gwent yn ystod Chwarter 2 ac roeddwn yn falch o weld y camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â throsedd difrifol a threfnedig yng Ngwent. Mae trosedd difrifol a threfnedig yn effeithio ar bob un o'n cymunedau a phlant a phobl ifanc, ac mae oedolion bregus yn arbennig o agored i gael eu targedu gan gangiau troseddol. Mae hyn yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent a bydd yn flaenoriaeth allweddol yn fy nghynllun heddlu a throsedd, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
- Gwnaethom drafod sut i wella'r broses cyfiawnder troseddol i sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu bodloni. Mae'r cyfnod pan mae dioddefwyr yn aros i achos gael ei gynnal yn gallu bod yn anodd iawn ac mae dyletswydd arnom ni i sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn ni i wneud yn siŵr bod y broses mor rhwydd â phosibl.
- Dywedais wrth y Prif Gwnstabl Dros Dro pa mor bwysig yw plismona sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac esboniais y bydd hwn yn faes a fydd yn cael sylw gen i yn y dyfodol. Mae meithrin perthnasoedd rhwng yr heddlu a phlant a phobl ifanc yn eithriadol o bwysig am gymaint o resymau, ac mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei wneud yn iawn.
- Derbyniais adroddiad blynyddol ar sut mae Heddlu Gwent yn ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan sylfaenol o blismona ac yn ganolog i feithrin perthnasoedd a gwella hyder ymysg y cyhoedd. Rwy'n disgwyl pethau gwych yn hyn o beth, a byddaf yn monitro'r gwaith yma'n rheolaidd.
Mae cyfarfod mis Tachwedd yn hollbwysig bob blwyddyn, gan mai dyma pryd mae'r Prif Gwnstabl yn cyflwyno cais ffurfiol am gyllideb i'r Comisiynydd. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud i baratoi'r cais, ac mae'n cyffwrdd ar bob agwedd ar ddarpariaeth plismona a hoffwn ddiolch i bawb am eu hamser a'u hymdrechion wrth ei lunio.
Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis trwy'r dreth gyngor. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £173 miliwn yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol. Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, a fforddiodd i bobl leol. Yn ystod cyfarfod y Bwrdd, cafwyd trafodaethau hir am yr heriau ariannol sy'n wynebu Heddlu Gwent a'r sector cyhoeddus ehangach yn gyffredinol.
Mae ein cynllun ariannol tymor canolig yn dweud wrthym ni y bydd angen cynnydd ym mhraesept y dreth gyngor o isafswm o £25 y flwyddyn ar gyfer eiddo band D arferol os yw Heddlu Gwent am geisio cynnal lefelau gwasanaeth presennol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 a thu hwnt. Mae hyn yn golygu y byddai'r cartref cyffredin yn talu tua £2 y mis yn fwy tuag at blismona. Ar hyn o bryd rwyf yn cynnal arolwg gyda phreswylwyr i weld a ydyn nhw'n teimlo ei fod yn gynnydd fforddiadwy, ac mae amser o hyd i gwblhau'r arolwg a lleisio eich barn.
Bydd cais y Prif Gwnstabl, a sylwadau gan y cyhoedd yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad ynglŷn â'r gyllideb ac yn llywio fy argymhelliad terfynol i Banel Heddlu a Throsedd Gwent ym mis Ionawr 2025.