Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
7fed Mawrth 2022
Yr wythnos hon cadeiriais gyfarfod chwarterol y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad. Yn y cyfarfod hwn rwy'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn ffurfiol ar ran y cyhoedd.
Roedd yn gyfarfod cadarnhaol ac yn gyfle ffurfiol i mi gyflwyno fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd i'r Prif Gwnstabl a'i huwch dîm rheoli.
Mae'r cynllun yn amlinellu fy ngweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ac yn erbyn y blaenoriaethau hyn rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran trigolion.
Dyma fy mlaenoriaethau ar gyfer Gwent tan 2025:
- Cadw Cymdogaethau'n Ddiogel;
- Brwydro yn erbyn Troseddau Difrifol;
- Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr ac Amddiffyn Pobl Agored i Niwed;
- Cynyddu Hyder y Gymuned mewn Plismona; ac
- Ysgogi Plismona Cynaliadwy.
Bydd cofnodion y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar fy ngwefan.