Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
Yr wythnos hon cadeiriais gyfarfod chwarterol y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, lle rwy'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd.
Roedd y rhan fwyaf o'r sesiwn wedi'i neilltuo i gyflwyniad gan y Prif Gwnstabl a'i thîm, lle gwnaethant ddadlau o blaid y swm o arian y bydd ei angen arnynt yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae bron i 50 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau treth y cyngor lleol yn awr. Daw'r gweddill drwy grant gan Lywodraeth y DU, fodd bynnag ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod faint fydd y grant hwnnw ar gyfer 2022/23.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd fy nghyfrifoldeb i yw pennu’r lefel treth y cyngor yr ydych yn ei dalu tuag at blismona bob blwyddyn.
Rwyf i fod i wneud y penderfyniad hwn ddechrau mis Ionawr ond rwyf am glywed eich barn chi cyn gwneud hyn.
Cwblhewch fy arolwg a rhannwch eich barn.