Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cynnal ei gyfarfod Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad chwarterol lle mae'n dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am ddarparu gwasanaethau plismona lleol.
Canmolwyd Heddlu Gwent yn ystod y cyfarfod am eu hymateb ym maes diogelu yn ystod pandemig Covid-19, ac am eu llwyddiant o ran cael canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr trais rhywiol yn y llysoedd.
Bu'r Comisiynydd hefyd yn adolygu strategaeth stopio a chwilio Heddlu Gwent i sicrhau bod defnydd yr heddlu o bwerau stopio a chwilio yn deg ac yn foesegol.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae ymateb Heddlu Gwent i ddiogelu trigolion agored i niwed drwy gydol pandemig Covid-19 wedi bod yn glodwiw. Nid yw plismona pandemig yn hawdd ond rwy'n dawel fy meddwl bod y systemau a'r prosesau a roddwyd ar waith i ofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed yn helpu pobl i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen fwyaf arnynt.
"Rwyf hefyd yn falch bod Heddlu Gwent ar hyn o bryd yn un o'r heddluoedd sydd â’r cyfraddau uchaf yn y DU o ran cael euogfarnau am achosion o drais rhywiol yn y llysoedd. Mae hwn yn fater hynod o gymhleth ac mae'r llwyddiant hwn yn dangos ymrwymiad a blaengaredd yr heddlu yn y maes hwn.
"Fe wnaethom ni hefyd achub ar y cyfle hwn i edrych ar ddefnydd Heddlu Gwent o bwerau stopio a chwilio. Mae stopio a chwilio yn arf pwysig i helpu i atal troseddu yn ein cymunedau ond mae'n hanfodol ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent yn adolygu eu gweithdrefnau mewnol o ran stopio a chwilio, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y mater hwn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol."