Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd
9fed Mawrth 2026
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cadeirio sesiwn diweddaraf ei Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd.
Y Bwrdd yw prif fforwm y Comisiynydd i hyrwyddo tryloywder, adolygu perfformiad a pholisïau’r heddlu, a rhoi sylw i’r materion mwyaf pwysig i gymunedau lleol.
Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd y Comisiynydd wybodaeth am gynnydd Heddlu Gwent mewn cysylltiad ag adroddiad arolygiad diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi a sut mae’r heddlu’n cyflawni’r blaenoriaethau a amlinellir yn ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Darllen adroddiadau a chofnodion.