Briff y Prif Weinidog
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Roeddwn i’n falch o gyfarfod â'r Prif Weinidog yr wythnos hon i drafod cyfyngiadau lleol ym Mwrdeistref Caerffili, sydd wedi'u hymestyn am y saith diwrnod nesaf.
"Yn ffodus, mae'n ymddangos bod achosion yng Nghaerffili yn lleihau sy'n dangos bod y cyfyngiadau lleol hyn, ni waeth pa mor rhwystredig maen nhw, yn gweithio. Ymddengys hefyd fod Casnewydd yn sefydlogi.
"Fe wnaethom ni gwrdd hefyd ar wahân â'r Prif Weinidog, y Gweinidog Addysg, cydweithwyr addysg ac Is-gangellorion o bob rhan o Gymru i drafod materion myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion ac addysg uwch.
“Mae'r berthynas rhwng prifysgolion lleol yng Ngwent a'r heddlu yn gadarnhaol iawn ac rwy'n cefnogi’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, pan fo’n dweud na ddylai myfyrwyr gael y bai yn annheg am ledaenu'r feirws.
"Rwy'n ffyddiog bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yng Ngwent yn dilyn y canllawiau ac yn ymddwyn yn gyfrifol iawn."