Blwyddyn Newydd Dda

6ed Ionawr 2025

Hoffwn ddechrau fy ngholofn gyntaf yn 2025 trwy ddymuno blwyddyn newydd dda ac iach i chi i gyd.

Roedd swyddogion a staff Heddlu Gwent ar ddyletswydd dros wyliau'r Nadolig i gadw ein cymunedau'n ddiogel a bu'n rhaid iddynt weithio ddydd a nos i ymateb i dywydd garw, yn ogystal â'r heriau arferol adeg yma o'r flwyddyn. Rwyf eisiau diolch i swyddogion a staff am bopeth a wnaethant yn ystod y cyfnod yma, ac rwyf eisiau diolch i'w teuluoedd hefyd a oedd yn gorfod gwneud heb eu cwmni nhw ar yr adeg yma y mae llawer ohonom yn ei gymryd o ddifrif.

Wrth i ni ddechrau 2025, rwyf yn brysur yn gweithio i wneud dau benderfyniad arwyddocaol a fydd yn llywio'r ffordd y bydd fy swyddfa a Heddlu Gwent yn gweithio dros y flwyddyn nesaf. Y mis yma mae'n rhaid i mi benderfynu ar ba lefel y dylwn bennu'r praesept plismona, sef yr arian sy'n cael ei dalu i Heddlu Gwent trwy'r dreth gyngor leol. Mae hwn yn benderfyniad anodd, ond y realiti yw y bydd rhaid i ni wneud arbedion sylweddol oni bai ein bod yn codi praesept y dreth gyngor.

Rhaid i mi orffen a chyhoeddi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd hefyd, a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer gweddill fy nghyfnod yn y swydd. Mae'r ddau ohonynt yn benderfyniadau mawr a byddant yn cael eu llywio gan y gwaith ymgysylltu rwyf wedi ei wneud gyda'r cyhoedd ledled Gwent trwy gydol 2024. Diolch i bawb ym mwrdeistref Caerffili a gymrodd ran yn y broses yma.

Mae gen i gynlluniau mawr ar gyfer 2025. Mae'r rhain yn cynnwys adolygu ystâd Heddlu Gwent i sicrhau ei bod yn addas i'r pwrpas ac yn galluogi swyddogion heddlu i ddarparu ar gyfer ein cymunedau, a gwella ein gwaith craffu, gan ei wneud yn fwy tryloyw a chreu cyfleoedd i chi gyfrannu at y broses. Byddaf yn dechrau ar y gwaith sydd ei angen i gyflawni'r blaenoriaethau y byddaf yn eu nodi yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd hefyd. Bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth ac eto, hoffwn ddiolch i bawb ohonoch chi sydd wedi cyfrannu at y broses yma a gallaf eich sicrhau chi bod eich sylwadau wedi cael eu darllen a'u hystyried. Beth am ddilyn fy swyddfa ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gofrestru i dderbyn ein e-fwletin, er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau yma a mwy?

Mae'r flwyddyn i ddod yn mynd i fod yn un brysur ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent, Mark Hobrough, ein partneriaid, a chi, ein preswylwyr, i wneud gwahaniaeth go iawn i bob un o'n cymunedau, a chreu Gwent mwy diogel i bawb.