Blog: Yr wythnos hon

15fed Medi 2024

Yr wythnos hon cynhaliais fy Mwrdd Strategaeth a Pherfformiad, sy'n gyfarfod allweddol lle rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Cawsom drafodaeth fanwl am strategaeth cyfathrebu cyhoeddus Heddlu Gwent, gyda dadansoddiad defnyddiol o'r iaith a ddefnyddir ar y cyfryngau am Heddlu Gwent. Mae hyder y cyhoedd mewn plismona ledled y wlad wedi cael ei ddifrodi cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf ond roedd yn galonogol gweld bod y rhan fwyaf o'r cynnwys ar y cyfryngau yng Ngwent naill ai'n gadarnhaol neu'n adroddiad ffeithiol. Gwnaethom hefyd drafod y gyfres newydd o Rookie Cops ar y BBC a gafodd ei ffilmio gyda swyddogion Heddlu Gwent ac sy'n cael derbyniad da gan y cyhoedd. Mae'n adlewyrchu fy marn, a luniwyd yn dilyn sawl sgwrs yn ein cymunedau, bod y rhan fwyaf o breswylwyr yn gwerthfawrogi eu heddlu a'r gwasanaeth mae'n ei ddarparu ar gyfer ein cymunedau, er gwaethaf y negyddoldeb am yr heddlu'n genedlaethol.

Dydd Gwener bûm yn ymweld â Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili. Roedd yn ymweliad gwerth chweil lle cefais olwg dda ar y gwaith partner rhwng Blaenau Gwent a Chaerffili. Cefais gwrdd â'r timau a chael gwell dealltwriaeth o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu yn eu hardaloedd awdurdod lleol. Cefais gyfle hefyd i siarad â'r gweithiwr camddefnyddio sylweddau, sy'n cael ei ariannu trwy fy swyddfa, am y rhan y mae alcohol a chyffuriau'n ei chwarae mewn troseddau ieuenctid. Yn fwyaf pwysig, cefais gwrdd â rhai o'r bobl ifanc sydd yn y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid ar hyn o bryd, ac roedd yn dda iawn gallu siarad â nhw am eu heriau eu hunain, a'u profiadau o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Roedd yn fraint cael gwahoddiad i gychwyn ras 10 milltir flynyddol Sport UK yr wythnos yma hefyd. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol a gafodd ei gynnal gan Heddlu Gwent eleni yn lleoliad bendigedig Rhodfa Coedwig Cwm Carn, ac roedd yn wych gweld cymaint o gynrychiolwyr o heddluoedd ledled y DU yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad. Mae swyddogion a staff yr heddlu'n wynebu sefyllfaoedd yn rheolaidd na fydd y rhan fwyaf ohonom ni fyth yn gorfod eu profi, a diolch am hynny, ac mae hyn yn gallu effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae amrywiaeth eang o rwydweithiau cefnogi staff ar gael yn y maes plismona ac mae'r rhwydweithiau chwaraeon yn arbennig yn bwysig iawn i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol swyddogion. Pob canmoliaeth i Heddlu Gwent am drefnu digwyddiad mor wych, a llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran neu a gefnogodd fel gwirfoddolwr.