Blog y Comisiynydd: Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

14eg Hydref 2024

Yr wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Cyn yr etholiad, ymgyrchais o ddrws i ddrws yng Ngwent gydag addewid maniffesto i roi sylw i droseddau casineb yn ein cymunedau. Yn awr, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, hoffwn dawelu meddwl preswylwyr y bydd hwn yn flaenoriaeth i mi trwy gydol fy nghyfnod yn y swydd.

Rwyf am i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed. Rhywle ble mae pawb yn derbyn ei gilydd ac yn trin ei gilydd gyda goddefgarwch a pharch.

Pan mae ymddygiad y rheini nad ydynt yn rhannu'r gwerthoedd hyn yn troi yn gasineb, mae'n rhaid i ni gymryd camau cadarn a phriodol. Dyma un o heriau poblogaeth amrywiol sy'n tyfu, a rhaid i blismona dderbyn yr her yma.

Rwyf yn sefyll mewn undod gyda phob dioddefwr troseddau casineb, a dyma pam rwyf yn falch i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, a pham rwyf yn addo gwneud fy rhan i fynd i'r afael â'r drwg yma yn ein cymdeithas.

Ni all yr heddlu gymryd camau gweithredu oni bai eu bod yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd, felly os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â'r heddlu, mae sefydliadau eraill sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i chi.

Riportiwch gasineb a chwiliwch am gymorth

Os ydych chi'n profi neu'n gweld trosedd casineb, riportiwch y digwyddiad wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101. Gallwch riportio ar Facebook, Twitter ac ar wefan Heddlu Gwent hefyd. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Mae cymorth ychwanegol ar gael gan ganolfan dioddefwyr Heddlu Gwent, Connect Gwent.

Gallwch gysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr hefyd i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth.

Mae Bawso yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer preswylwyr Du a phreswylwyr o leiafrifoedd ethnig yng Ngwent.

Mae Umbrella Cymru yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl LHDTQ+ sy'n dioddef trosedd.