Blog: Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyfle pwysig i ni dynnu sylw at ymddygiad gwrthgymdeithasol a dangos yr effaith mae'n ei chael ar ddioddefwyr unigol ac ar ein cymunedau.
Mae hefyd yn gyfle i fyfyrio, gan ein galluogi ni i ystyried sut gallwn wella ein harferion, gweithio'n well gyda'n gilydd ac ystyried beth yw ein prif bryderon yn awr a pha dueddiadau rydym yn gallu eu gweld yn codi yn y dyfodol.
Os nad yw'n cael sylw, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn difa cymunedau; mae'n gallu tanseilio teimladau o ddiogelwch a lles a chreu problemau hirsefydlog sy'n gallu bod yn eithriadol o anodd eu datrys yn llwyddiannus.
Rydym yn gwybod hefyd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn arwain at droseddau eraill sy'n gallu achosi niwed sylweddol, fel trais difrifol a throseddau trefnedig.
Dyna pam rwyf wedi gwneud ymrwymiad cadarn i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd. Rwyf yn credu'n gryf os ydym ni am wneud gwahaniaeth wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol bod angen i ni roi blaenoriaeth iddo yn ein strategaethau ac amcanion perfformiad sefydliadol.
Ar draws asiantaethau yng Nghymru, rwyf yn credu ein bod yn rhannu dealltwriaeth o bwysigrwydd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ar lefel genedlaethol, rwyf yn gwybod bod Llywodraeth Cymru'n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio dull cyson a chydlynus i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru. Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn hollbwysig i'n helpu ni i gyflawni hyn a hoffwn ganmol y gwaith mae wedi bod yn ei wneud ers ei sefydlu yn Ionawr 2021.
Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'n cymunedau ac i'n gwasanaethau. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â'r pandemig, y mae ei effeithiau gyda ni o hyd.
Mae pobl ifanc yn arbennig wedi cael eu heffeithio gan Covid-19. O ganlyniad i gyfyngiadau iechyd cyhoeddus angenrheidiol, bu'n rhaid cau ysgolion a chafodd hynny effaith ar eu dysgu a'u datblygiad.
O ran pobl ifanc mewn perygl o ddechrau ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau, neu rai a oedd eisoes yn ymwneud â hynny, roedd y cyfyngiadau symud hefyd yn cyfyngu ar y graddau yr oedd gwasanaethau'n gallu ymwneud â bywydau'r bobl ifanc hyn a chynnig cymorth iddynt.
Yn y pen draw, collwyd cyfleoedd atal ac aeth ymddygiad a oedd eisoes yn peri pryder yn waeth a daeth yn fwy hirsefydlog.
Fel gyda Covid, mae'r argyfwng costau byw presennol hefyd yn mynd i gael effaith helaeth ar gymdeithas, a dylem ddisgwyl i hyn amlygu ei hun ar ffurf cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a bygythiadau i ddiogelwch cymunedau.
Mae'r digwyddiadau seismig ac anhygoel o heriol hyn yn gyfle gwych i drais difrifol a throseddau trefnedig ffynnu, ac mae pobl ifanc sydd eisoes yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arbennig o agored i gael eu tynnu i mewn iddynt.
Mae gwaith partner bob amser yn bwysig wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithiol, ond mae hanfodol wrth ymdrin â phobl ifanc.
Mae gan yr heddlu, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i gyd ran bwysig i'w chwarae yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amddiffyn pobl ifanc rhag dechrau ymwneud â thrais difrifol a throseddau trefnedig.
Er bod rhaid i ni reoli a lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ddioddefwyr a'n cymunedau, rhaid i ni hefyd geisio rhoi sylw i'r achosion sylfaenol sy'n gallu arwain pobl at ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais difrifol a throseddau trefnedig.
Mae ymyrraeth ac atal yn hollbwysig os ydym ni am gyflawni canlyniadau parhaol. Rwyf wedi dilyn yr egwyddor hon fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau dargyfeiriol sy'n ceisio denu pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau eraill mwy difrifol. Gallaf dystio i'r canlyniadau cadarnhaol yr ydym wedi eu gweld trwy waith y gwasanaethau hyn.
Er ein bod yn wynebu heriau sylweddol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru, rwyf yn credu'n gryf bod ein dull o weithio mewn partneriaeth a rhannu ymrwymiad i fynd i'r afael â'r broblem yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gadarn i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.