Blog: Wythnos Genedlaethol Diogelu
Ymunais â chydweithwyr Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu mewn galwad gyda'r Gweinidog dros Fenywod, Victoria Atkins, yr wythnos hon i drafod diogelu.
Yn anffodus, rydym yn gwybod bod achosion o dreisio, trais rhywiol a cham-drin domestig wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud a gwnaethom esbonio i'r Gweinidog pa mor bwysig oedd lefelau cyllid mwy cynaliadwy er mwyn rhoi cymorth i ddioddefwyr. Roeddwn yn falch o glywed ei bod yn cytuno â'n pryderon a bydd yn rhannu'r wybodaeth hon gyda llywodraeth y DU.
Mae'r gwaith o ddiogelu pobl fregus yn eithriadol o bwysig i mi.
Gyda chefnogaeth fy swyddfa, crewyd swydd Uwch Ymarferydd Diogelu sy'n gweithio yn Ystafell Reoli Galwadau Heddlu Gwent i roi cyngor, arweiniad a chymorth diogelu i staff yr ystafell reoli a swyddogion heddlu rheng flaen. Dyma'r swydd gyntaf o'i math yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi cefnogi tîm Camau Cynnar Gyda'n Gilydd Heddlu Gwent, grŵp o swyddogion a staff arbenigol sy'n sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael cynnig y cymorth cywir ar y cyfle cynharaf posibl. Ers 2018 mae'r tîm wedi hyfforddi dros 1300 o swyddogion heddlu a 400 o staff o asiantaethau partner i adnabod arwyddion profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod plant sy'n profi trawma yn fwy tebygol o berfformio'n wael yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o ddechrau ymwneud â throsedd. Gan hynny, mae'r mentrau hyn nid yn unig yn helpu i ddiogelu pobl fregus ond hefyd i leihau trosedd a rhoi gwell cyfleoedd bywyd i bobl yn y pen draw.
Yn hollbwysig, nid cyfrifoldeb yr heddlu yn unig yw diogelu pobl fregus, mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae. Mae ein partneriaid ar Fwrdd Diogelu Gwent yn rhoi cyngor, cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr i deuluoedd, unigolion, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yng Ngwent.
Gallwch riportio materion i Heddlu Gwent ar 101. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.