Blog Swyddfa’r Comisiynydd: Ar batrôl gyda'r Tîm Troseddau Gwledig
I nodi Wythnos Troseddau Gwledig yr wythnos hon, treuliodd Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Swyddfa'r Comisiynydd, Chris Latham, noswaith gyda Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent:
"Cafodd y Tîm Troseddau Gwledig ei sefydlu ym mis Ionawr eleni ac mae wedi ymroi i fynd i'r afael â throseddau gwledig, treftadaeth a bywyd gwyllt. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos gyda chymunedau lleol, ffermwyr a sefydliadau partner i fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o droseddau yn ardaloedd gwledig Gwent.
"Ymunais â Chwnstabl Heddlu Daniel Counsell ar sifft nos ac aethom i fynydd Machen ym mwrdeistref Caerffili i ddechrau, i ymweld â man sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer tipio anghyfreithlon.
"Roedd gwastraff ar hyd y safle, ac yn y swp o sbwriel roedd llwythi o fagiau du wedi'u llenwi â phridd a photiau ceramig wedi torri. Roedd Cwnstabl Counsell yn credu eu bod wedi dod o ffatrïoedd canabis a gwelsom lawer mwy o'r bagiau hyn wrth i ni yrru o gwmpas y mynydd. Dyma un o sawl ffordd mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn effeithio ar ein hardaloedd gwledig.
"Mae'r Tîm Troseddau Gwledig yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Taclo Tipio Cymru a ffermwyr lleol i geisio mynd i'r afael â'r broblem o dipio anghyfreithlon yn yr ardal hon gydag arwyddion a phatrolau rheolaidd, ond mae safleoedd fel y rhain i'w gweld ledled Gwent.
"Gan ei bod yn Ddiwrnod Cenedlaethol Moch Daear (dydd Sul 6 Hydref) aethom i ymweld â chyfres o setiau moch daear lle mae swyddogion wedi cael hysbysiadau am aflonyddu neu 'baetio' moch daear. Gwelsom sawl safle lle'r oedd baetwyr wedi cloddio i lawr i'r set er mwyn i'w cŵn gyrraedd at y moch daear.
“Nid yn unig mae hyn fel arfer yn arwain at farwolaeth y mochyn daear, yn aml mae'n achosi anafiadau difrifol i'r ci hefyd. Yn ffodus, nid oedd unrhyw olion newydd o gloddio yn yr ardal.
“Mae hon yn drosedd erchyll sy'n hynod o anodd ei phlismona, ond mae'r Tîm Troseddau Gwledig yn gweithio gyda ffermwyr lleol, perchnogion tir a sefydliadau lles anifeiliaid ledled Gwent i geisio rhoi sylw i'r mater.
"Yn drist, mae creulondeb tuag at anifeiliaid yn gyffredin yn ardaloedd gwledig Gwent ac aethom i wirio ar rai o'r gyrroedd ceirw lleol o gwmpas Coedwig Wentworth. Mae ceirw yng Ngwent yn dioddef yn rheolaidd dan law potswyr, cŵn sy'n ymladd a phobl sy'n cyflenwi’r farchnad tacsidermi. Diolch i'r drefn, mae pobl leol yn cadw golwg ar les y ceirw ac yn dweud wrth y tîm am unrhyw bryderon.
"Yn olaf aethom i Eglwys y Plwyf Caerwent yn Sir Fynwy. Roedd yr eglwys wedi cael ei thargedu gan ysbeilwyr beddau yn ddiweddar, a oedd yn chwilio am arteffactau Rhufeinig. Mae'r fynwent yn dal i gael ei defnyddio felly'n amlwg achosodd y digwyddiad hwn ofid mawr yn y gymuned leol. Yn dilyn cyfarfod gyda'r Tîm Troseddau Gwledig mae'r eglwys wedi gosod goleuadau ar y safle ac mae'r heddlu ar batrôl yn amlach yn yr ardal.
"Dim ond ychydig o oriau mewn sifft hir y gwnes i eu treulio gyda'r tîm, ond roedd yn gipolwg difyr iawn ar waith y swyddogion, ac roedd yn galonogol gweld bod pryderon y gymuned wledig yn cael eu cymryd o ddifrif. Efallai nad oes gan droseddau gwledig yr un proffil â mathau eraill o droseddau, ond maen nhw'n hollbwysig i'r gymuned sy'n cael ei heffeithio."