Blog gwadd: Leah Taylor, Ymarferydd Troseddau Tân
Fy enw i yw Leah Taylor, rwy'n 27 oed ac rwy'n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Rwy'n Ymarferydd Troseddau Tân yn yr Adran Diogelwch Cymunedol a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent sy’n ariannu fy swydd. Cymerais y swydd hon oherwydd fy mod eisiau bod yn rhan o sefydliad sy'n gwneud gwir wahaniaeth yn y gymuned; rhywbeth sy’n sicr yn wir am y swydd hon.
Fy swyddogaeth i yw helpu cymunedau yn ogystal ag addysgu pobl ynghylch tanau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a'r effaith y mae’r rhain yn ei gael ar eu cymunedau, y Gwasanaeth Tân ac Achub ac asiantaethau partner.
Rwy'n gweithio gyda nifer o asiantaethau partner i leihau a chodi ymwybyddiaeth o'r materion hyn, sy'n gallu amrywio o dipio anghyfreithlon (sy'n gallu bod yn danwydd ar gyfer tanau sbwriel bwriadol), i danau bwriadol, cynnal asesiadau risg o danau bwriadol ar adeiladau segur ac adfeiliedig (sydd â'r potensial i gael eu rhoi ar dân ac achosi risg ychwanegol i'n diffoddwyr tân) a, hefyd, helpu dioddefwyr trais domestig.
Mewn atgyfeiriadau trais yn y cartref, rwy'n cynorthwyo'r dioddefwr trwy wneud yr eiddo yn fwy diogel i gynyddu ei ddiogelwch a'i les os yw wedi cael bygythiad o losgi bwriadol, troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei erbyn.
Mae fy niwrnod gwaith yn amrywio'n fawr ond yn gyffredinol mae'n cynnwys rhoi cyflwyniadau i ysgolion o wahanol grwpiau oedran, mynychu grwpiau datrys problemau gydag asiantaethau eraill ar y ffordd orau o fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar gymunedau Gwent a chynnal gweithgareddau ymgysylltu yn y gymuned.
Mae’r mathau hyn o ymgysylltu yn rhoi boddhad mawr i mi ac maen nhw’n bendant yn cael effaith gan ein bod wedi gweld lleihad sylweddol mewn tanau yn yr ardaloedd yr ydym wedi gweithio ynddynt.
Yn anffodus, ers y canllawiau i aros gartref yn sgil Covid19, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau gwyllt bwriadol. Mae hyn yn debygol iawn o fod o ganlyniad i gau'r ysgolion a'r tywydd braf yr ydym wedi’i gael. Mae fy nhîm a minnau bellach wedi dechrau ein patrolau yn gynt na'r arfer; fel arfer rydym ni’n eu dechrau yn union cyn gwyliau'r Pasg. Mae'r rhain yn batrolau amlwg iawn yn ein hardaloedd lle ceir problemau ac rydym yn cael cefnogaeth gan ein cydweithwyr yn yr heddlu y gallwn alw arnynt i'n cynorthwyo yn ystod y patrolau hyn. Eto, oherwydd Cofid19 rydym wedi gorfod addasu ein patrolau i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau sbwriel bwriadol. Gallai'r cysylltiad posibl yma fod oherwydd bod mwy o bobl yn aros gartref a llai o wasanaethau mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu. Rydym yn cynghori pobl i ddilyn canllawiau'r awdurdod lleol a'r Llywodraeth ar waredu gwastraff ac i ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i waredu eich gwastraff. Rydym hefyd yn gofyn i chi rhoi gwybod i’n hystafell rheoli ar 01268 909407 os ydych chi’n mynd i losgi dan reolaeth ar eiddo preifat, fel na fydd yn arwain at anfon injan dân yn ddiangen.
Mae'n bwysig cydnabod, er ein bod wedi gweld cynnydd yn yr achosion hyn yn ddiweddar, bod y data ar gyfer y mathau hyn o achosion yn awgrymu ein bod yn dal i fynd i lawer llai o’r achosion hyn nag yn yr un cyfnod y llynedd, sy'n fy mhlesio i gan y gallaf weld yr effaith gadarnhaol y mae fy swyddogaeth yn ei chael ar wella lles trigolion Gwent.
Rwy’n hynod ddiolchgar ac yn falch fy mod yn cael bod yn rhan o sefydliad mor wych, ac yn cael gwneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd yng nghymunedau Gwent.