Blog gwadd: Kelly Williams, Cydgysylltydd Atal Trais Difrifol
Y Cydgysylltydd Atal Trais Difrifol sy'n gyfrifol am gynnal a datblygu cydberthnasau gydag asiantaethau partner er mwyn lleihau ffactorau sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai sy'n gyrru trais difrifol yng Ngwent.
Rhan o'm swydd i yw herio nifer yr achosion o droseddau cyllyll a chanfyddiadau ohonynt. Yn ffodus, mae gan Went un o'r lefelau isaf o droseddau cyllyll yn y DU.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Y Swyddfa Gartref i ddechrau ac mae'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn awr, fel rhan o waith y swyddfa i leihau troseddau a thrais difrifol a chyfundrefnol.
Yn y gorffennol rwyf wedi gweithio yn y maes diogelwch cymunedol yng Ngwent, a gyda phobl ifanc sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd. Rwyf yn credu'n angerddol bod dull cydweithredol a chydgysylltiedig o fynd i'r afael â phroblemau trais difrifol yn hanfodol.
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi fy ngalluogi i gamu i swydd sy'n dwyn gweithwyr proffesiynol at ei gilydd sy'n angerddol am gydweithio i atal trais difrifol ymysg pobl ifanc.
Fel rhan o'r prosiect hwn mae gennym gydweithwyr o Fearless, cangen o Crimestoppers sy'n benodol ar gyfer pobl ifanc, a chydweithwyr o Ymddiriedolaeth St Giles sy'n gweithio mewn ysgolion uwchradd ledled Gwent i ddarparu addysg am y gyfraith a'r niwed sy'n cael ei greu gan drais a throsedd difrifol.
Yn ogystal â hyn, mae Ymddiriedolaeth St Giles hefyd yn rhoi cymorth i bobl ifanc sydd mewn cyfnod anodd yn eu bywydau.
Mae cydweithwyr Barnado's yn gweithio gyda grŵp ieuengach o blant yn unigol a chyn bo hir byddant yn gweithio mewn nifer o ysgolion cynradd ledled Gwent yn rhannu negeseuon ataliol a chadarnhaol.
Fel casgliad o weithwyr amlasiantaeth rydym yn gallu deall nid yn unig beth sy'n gweithio i Went, ond rydym yn gallu cysylltu ag Uned Atal Trais Cymru hefyd i rannu dysgu ar draws Cymru er mwyn llywio arferion gwaith mewn ffordd gydweithredol ar draws y genedl.